Aeolus Power (Wind-Energy)

Aeolus Power (Wind-Energy)
Rydym yn arbenigo mewn cyflenwu a gosod twrbiniau gwynt sy’n amrywio mewn maint hyd at 100kW. Mae ein twrbiniau yn addas i ffermydd, ysgolion, busnesau, cymdeithasau lleol a cartrefi.
Rydym yn un o'r cwmniau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ei dewis i ddosbarthu y twrbiniau gwynt 'Endurance Wind Power E-3120' (50kW), a'r 'Evance R9000' (5kW).
Rydym yn medru darparu gwasanaeth cyflawn, gan gynnwys cyngor ar safle’r twrbin a’r twrbiniau mwyaf addas ar gyfer y safle, cymryd arolwg ar eich tir a rhoi cyngor sut i ddelio gyda’r awdurdodau cynllunio a’r cwmniau trydan. Gallwn sefydlu, comisiynnu a chynnal y twrbinau ar eich rhan. Rydym ond yn gweithio ar pwer gwynt yn unig - felly rydym yn sicr ein bod yn gwybod rhywbeth neu ddau amdano!
Mae gan bawb sydd a digon o dir i sefydlu twrbin gwynt bach y gallu i greu trydan ei hunain trwy ddefnyddio egni’r gwynt. Gall allbwn twrbiniau gwynt cael eu cysylltu yn union i gyflenwad trydan sydd yn bodoli eisoes, sydd yn golugu fod yr egni sy’n cael ei gynhyrchu gan y twrbin yn medru lleihau faint o egni sy’n cael ei dynnu o’r cyflenwad trydan.
O 2010 ymlaen, bydd 'Feed-in Tariffs' (FIT) yn darparu arian cymorth am y trydan sy'n cael ei gynhyrchu.
Os ydych yn ffermwr neu yn perchen tir, gyda cae gwyntog sy'n addas ar gyfer twrbin gwynt 'Endurance Wind Power' 50kW, gallwch elwa incwm heb draul ariannol, heb broblem a gyda dim i'w wneud!
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch gyda'n prif wefan.
Special thanks to Bethan Davies for her assistance with the translation from English into Welsh.